Noson o sgwrsio a blasu caws Cymraeg yn y Cwtch yn Hoffi Coffi? Trefforest, Pontypridd dyna fu Cwlwm Busnes yn gwneud ar 3 Mehefin. Lleoliad hwylus i'r orsaf drên a coffi blasus iawn. Sgwrs ddifyr gan Royston O'Reilly perchennog Hoffi Coffi? - pam fod hi'n bleser ac yn synhwyrol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn busnes. Caroline Mortimer yn esbonio ychydig am ei gwaith fel Swyddog Iaith yn RhCT a sut mae modd cael gohebiaeth y Cyngor yn Gymraeg. Dosbarthwyd llyfrynau bach gyda rhifau cyswllt llinellau Cymraeg - mynwch gopi nawr!
24/06/2008
Rhwydweithio
Sesiwn hyfforddiant ar farchnata a rhwydweithio gan y cwmni Sglein yn Borders ar nos Iau 24ain o Ionawr 2008. Hwyl gyda cyflwyniad rôl chwarae a chyfle i'r gynulleidfa wella eu sgiliau cyfathrebu. Noson Caru Busnes wedi bod yn ddefnyddiol iawn.
Pen-blwydd hapus hefyd i Jobtrac Cymru oedd yn 3 oed ar ddiwrnod Santes Dwynwen. Llongyfarchiadau hefyd i Jobtrac ar ennill gwobr busnes dwyieithog y flwyddyn yn Seremoni Wobryo Clwb Busnes Rhondda Cynon Taf 2008. Da iawn Tracey.
28/01/2008
Cwlwm Busnes yn Dathlu Gwyl Dewi
Ar nos Iau 28 Chwefror cynhaliwyd noson arbennig o Cwlwm Busnes y Cymoedd gyda Elis Roberts, BBC, a Hywel James, cyfreithiwr yn anerch. Lleuwen Steffan a'r band oedd yr adloniant.
02/03/2008
Busnes yn Dathlu Dwynwen
Ar y noson cyn Dydd Santes Dwynwen bydd Cwlwm Busnes y Cymoedd yn cwrdd i drafod marchnata a datblygu busnesau. Cysylltwch â Helena 07981 906102 am ragor o wybodaeth.
06/01/2008
Mae croeso cynnes i bawb sydd
â diddordeb i ddod ar y noson.
Am fwy o fanylion
cysylltwch
â
Menter Iaith
01685 877183.
n
Menter Iaith
Rhondda
Cynon Taf
Llawr Cyntaf,
9. Y Stryd Fawr,
Pontypridd.
CF37 1QJ