Home

Newyddion 1

LLONGYFARCHIADAU I GLWB CARCO DOLAU

LLONGYFARCHIADAU I GLWB CARCO DOLAU
Llongyfarchiadau i aelodau Clwb Carco Dolau sydd wedi llwyddo, er gwaethaf cystadleuaeth ffyrnig i gael eu gwaith wedi’i gynnwys mewn llyfr afterschool club.net yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr iawn iddyn nhw ‘gyd.
18/05/2009

RHAN O'R TÎM

RHAN O'R TÎM

Wnaeth 18 o bobl ifanc (14-15 mlwydd oed) o ysgolion y Cymer a Rhydywaun, gymeryd rhan mewn Diwrnod gweithgareddau tîm yng Nghanolfan Daerwynno, Llanwynno a drefnwyd gan Menter Iaith, fel rhan o'u cymhwyster OCN mewn cwrs fer cyfathrebu.

RHAN O'R TÎM
25/03/2009

CYNLLUN GOFAL HAF YN GARTH OLWG

CYNLLUN GOFAL HAF YN GARTH OLWG
Eleni bydd Menter Iaith yn cynnal cynllun gofal drwy’r dydd rhwng Gorffennaf 27ain ag Awst 21ain Yn Ysgol Uwchradd Garth Olwg, Pentre’r Eglwys. Bydd cyfle i blant oed cynradd ( Dosbarth derbyn hyd blwyddyn 6 ) i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol, adloniadol a chwaraeon tra’n derbyn gofal gan staff cymwys. Bydd y niferoedd yn gyfyngedig felly os oes arnoch ddiddordeb manteisio ar y cyfle i’ch plant dderbyn y gofal gorau, drwy gyfrwng y Gymraeg yna cofrestrwch ar gyfer ein cynllun e-chlysur ni. Mi fydd manylion o ran sut i archebu a chost yn cael ei gyhoeddi cyn hir ar e-chlysur.

CYNLLUN GOFAL HAF YN GARTH OLWG
21/04/2009

Boreau Coffi Cymunedau'n Gyntaf

Boreau Coffi Cymunedau'n Gyntaf
Mae nifer o barneriaethau Cymunedau'n Gyntaf o gwmpas Rhondda Cynon Taf wedi dechrau cyfres o foreau coffi i ddysgwyr Cymraeg ac i Gymry Cymraeg sydd yn byw yn yr ardaloedd. Ar gyfer y rhai sydd yn dysgu'r iaith, mae 'na diwtor anffurfiol yn bresennol i arwain sgyrsiau, ateb cwestiynnau ac yn y blaen. Mae'r boreau yma'n cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol :

Dydd Llun 9.30 - 11.30 Rhondda Bowl Tonyrefail
Dydd Mawrth 2.00 - 3.00 Clydach Vale
Dydd Mercher 9.00-10.00 Glynfach Porth
Dydd Mercher 1.00-2.30 Glyncoch
Dydd Iau 9.30-11.30 Capel Bethleham,Tonyrefail
Dydd Gwener 10.00 - 12.00 Maes yr Hâf, Trealaw

Os hoffech fwy o fanylion am unrhywun o'r boreau coffi uchod, yna cysylltwch â'r swyddfa Cymunedau'n Gyntaf perthnasol.

Cofiwch hefyd fod na foreau coffi anffurfiol dal yn cario 'mlaen yn rheolaidd ar agor i Gymry Cymraeg a dysgwyr yn ogystal dan adain Menter Iaith. Mae rhestr llawn o rhain iw gweld dan y ddolen GWASANAETHAU uchod.
Boreau Coffi Cymunedau'n Gyntaf
04/03/2009

Swyddfa Newydd
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Llawr Cyntaf,
9. Y Stryd Fawr,
Pontypridd. CF37 1QJ
01443 407570


I gofrestru e-bost i dderbyn
gwybodaeth am weithgareddau cliciwch e-chlysur

cofrestru e-bost

Mae gen ti ddewis


 

Gallwch dalu Menter Iaith
drwy Paypal

Paypal
 

Beth sy'n digwydd

Digwyddiadau

Papur Bro Clochdar
Taith y Rhaeardrau dan nawdd Clochdar, dan arweiniant Gwyn Morgan. Dydd Sadwrn, 4ydd o Orffennaf, 3.00 p.m. Cwrdd ym maes parcio Y Llew Coch Penderyn am daith i Bontneddfechan. Nol am Beint a Brechdan wedyn. Pris: £4.00 y tocyn. * Dim cwn.
Y Llew Coch, Penderyn
3.00 Dydd Sadwrn 04/07/2009

Cymraeg i Oedolion
Clwb Cinio Pontyclun – Caffi Just Because - 1 o’r gloch
Caffi Just Because
1.00 Dydd Mawrth 07/07/2009

MENTER IAITH A CHANOLFAN GARTHOLWG
CF1 YN CF38 !! Noson o adloniant gyda chôr CF1 a'u ffrindiau. Mynediad £5 ( Elw at blant anghenus India)
Theatr Garth Olwg
7.30 Dydd Gwener 10/07/2009

Cymraeg i Oedolion
Clwb Cerdded – 10.30 – Treorci – cwrdd tu fas i’r clwb rygbi
Clwb Rygbi Treorci
10.30 Dydd Sadwrn 11/07/2009

Cymraeg i Oedolion
Clwb Cinio Pontyclun – Caffi Just Because - 1 o’r gloch
Caffi Just Because, Pontyclun
1.00 Dydd Mawrth 04/08/2009


Cliciwch yma i brynu a chefnogi
Menter Iaith

7 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 162373

Menter Iaith
Rhondda Cynon
Taf

Bwrdd yr Iaith
Top
Prynwch Yma!