DIEMWNTAU A CHAMPAGNE

CWLWM BUSNES Y CYMOEDD Nos Fercher 10.10.07
Mae Canolfan Diemwntau Cymru a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn croesawu busnesau lleol ac unigolion a diddordeb mewn marchnata i’r Ganolfan ym Marc Busnes Tonysguboriau.
Mae’r cwmni yn brysur ar hyn o bryd yn dylunio a gwneud eitemau ar gyfer priodas Ioan Gruffudd.
Trefn y Noson
6:30 y.h Croeso gyda champagne
bwffe ysgafn.
Taith o amgylch y ganolfan a’r gweithdy gan Kelvin James a Sharon Eira
Sgwrs gan Ifan Evans, Bwrdd yr Iaith a chyn-gyfarwyddwr Canolfan Dylunio Celtaidd Rhiannon
I sicrhau tocyn a lle ar y noson cysylltwch gyda Geraint Bowen Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ar 01443 226 386.
Rhagor o fanylion ar gael gan helenajones@menteriaith.org 07981 906 102
Tra roedd Ifan Evans yn gyfarwyddwr Canolfan Dyluniai Celtaidd Rhiannon yn Nhregaron enillodd y cwmni nifer o wobrau rhanbarthol a chenedlaethol. Yr oedd y cwmni yn cael cydnabyddiaeth arbennig am ei defnydd blaengar o'r Gymraeg, ac am fuddsoddiad sylweddol i greu canolfan ymwelwyr cyfoes ac amlbwrpas yn Nhregaron.
Mae Canolfan Diemwntau Cymru yn awyddus i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu busnes. Ar y noson ceir cyfle i weld sut mae’r broses ddylunio a chynhyrchu y gemwaith yn gweithio. Mae profiad ac agwedd cyfeillgar y teulu i fusnes wedi sicrhau fod pobl yn mwynhau gwneud busnes a hwy. Dewch i fwynhau’r noson!